
GWASANAETHAU

PEIRIANNEG
SIFIL
Rydym yn cwblhau amrywiaeth eang o waith peirianneg sifil megis
-
Llwybrau a Ffyrdd
-
Ffensio
-
Gwaith cerrig
-
Rhwydwaith Rheilffyrdd
-
Pontydd
Mae gennym brofiad helaeth yn y meysydd uchod, fel prif-gontractwr ac is-gontractwr, ac yn ymfalchïo yn ein safonau gwaith, gan rhoi pwyslais ar safonau uchel o Iechyd a Diogelwch ym mhob agwedd.

CYFOETH NATURIOL CYMRU
Mae G H James Cyf yn gontractwr cyfredol ar fframwaith Cyfoeth Naturiol Cymru. Drwy fod yn gontractwr ar y fframwaith, rydym wedi cwblhau amrywiaeth eang o waith, megis creu ffyrdd mewn coedwigoedd, creu cyfleusterau cynaeafu i beiriannau trwm, a creu cynefinnau mewn gwlyptiroedd i anifeiliaid mewn perygl a bywyd gwyllt.

TAI
CYMUNEDOL
Mae’r cwmni yn darparu ei wasanaethau i gyflawni gwaith yn y sector tai cymdeithasol. Mae’r gwaith hyn yn cynnwys gwelliannau allanol i’w heiddo (inswleiddio allanol, ffenestri newydd, gosod toeon llechi, estyniadau ac ati). Mae’r gwaith hefyd yn cynnwys gwaith draenio, gwaith brics, ffensio, uwchraddio llwybrau ac ail-wynebu ffyrdd târ a graean.
Rydym hefyd wedi cwblhau gwaith mewnol, gan gynnwys adnewyddu ceginnoedd, ystafell ymolchi a gwaith ailweirio trydanol.
CWSMERIAID


























