

AMDANOM NI
Cwmni teuluol yw G H James Cyf, wedi'i sefydlu yn 1985 ac yn masnachu fel cwmni cyfyngedig ers 2001. Gwilym H. James a’i wraig, Ann W. James yw cyfarwyddwyr y cwmni. Mae’r ddau yn cymeryd rhan flaenllaw yn rhedeg y cwmni. Mae cenhedlaeth nesaf y teulu yn cael eu cyflogi mewn swyddi rheoli o fewn y Cwmni, a fydd yn sicrhau parhad y busnes i’r dyfodol.
Mae G H James Cyf yn ymfalchïo yn eu hymroddiad i recriwtio, cefnogi, cyflogi a datblygu sgiliau pobl leol. Mae oddeutu 80% o’r gweithlu yn byw o fewn radiws o 20 milltir o'r swyddfa yn Nhrawsfynydd.
Mae’r gweithwyr safle i gyd, a’r is-ymgymerwyr gyda ardystiad diogelwch safle CSCS. Mae’r gyrrwyr peiriannau gyda ardystiad CPCS/NPORS i yrru a defnyddio peiriannau a’r offer priodol. Mae amrywiaeth eang o’r gweithwyr gyda blynyddoedd o brofiad yn y diwydiant adeiladu.
Mae G H James Cyf yn cynnig cyflogaeth parhaus i bobl addas, cymwys, sydd ag agwedd bositif i`w gwaith. Mae rhaglen hyfforddi targedol i sicrhau bod ein gweithwyr yn cwblhau gwaith mewn modd sy`n ddiogel ac yn gynhyrchiol. Yn G H James Cyf, rydym yn ymroi i gwblhau gwaith mewn dull diogel ac i’r safon uchaf bosib, yn gweithio o fewn deddfwriaethau Iechyd a Diogelwch, cyfyngiadau amgylcheddol a chyfyngiadau daearyddol.
CYMWYSTERAU
CHAS registered.
ISO 14001
Registered Waste Carrier
FENSA Approved Installer
ISO 45001
Polyroof Approved Installer
ISO 9001

